Microsoft word - cyfieithu technegol - berwyn prys jones.doc

Cyfieithu Technegol
Y cam cyntaf yw gyfieithu deunydd technegol yw cloriannu'r defnydd o dermau technegol ynddo. Ydyn nhw yno i bwrpas, neu i roi'r argraff bod y sawl sy'n siarad yn gwybod mwy am y pwnc dan sylw nag a wna'r gynulleidfa? Gall pobl fod fel defaid a dilyn patrymau pobl eraill yn ddifeddwl. Fe all fod angen grym personoliaeth i fynd yn erbyn y llif! Peth doeth, felly, yw cadw'r ystyriaethau isod mewn cof: 1. Mae gan bob maes ei jargon ei hun, er gwell er gwaeth, a bydd llawer o bobl yn ymhyfrydu yn y jargon hwnnw. Mae'n arwydd eu bod yn "broffesiwn". Ond rhaid cofio bod jargon fel traffordd: bydd yn denu mwy a mwy o draffig gan greu problem fwy byth. Gall termau ac ymadroddion technegol fod: yn angenrheidiol: mae i'r mwyafrif ohonynt ystyr bendant a sicr, e.e. cyfrifiadur, berfenw, bwrdeistref, penglog, awyrlun, deddf. yn ddiystyr o jargonllyd (neu'n 'dermllyd', a defnyddio bathiad hyfryd o ddifrïol Geraint Lovgreen ar welsh-termau-cymraeg), e.e situated, located, to form, to constitute. Gan amlaf, gall y cyfieithiad Cymraeg eu hepgor heb golli dim o'r ystyr. yn y canol rhwng y ddau uchod, e.e. gellir trosi range â'r geiriau 'ystod' neu 'amred(iad), ond gall weithiau fod yn ddigon llac ei ystyr i olygu dim mwy nag 'amryw' neu 'amrywiaeth'. yn rhan o ieithwedd ffansi: gall biwrocratiaith ddioddef o'r clwyf hwn yn dost. Yn Saesneg, y duedd yw troi at eiriau Ffrangeg neu Ladin (e.e. I have received your letter neu Could you advise me of your arrival? yn lle I've had/got your letter neu Could you let me know when you get here? (O'r Ffrangeg aviser (= hysbysu) y daw'r ystyr sydd i advise yma.) I raddau helaeth, gall y Gymraeg ochrgamu'r ymchwyddo twp hwn a defnyddio geiriau cyffredin, e.e. to receive = cael (cadwch 'derbyn' am to accept), ac I am sure that you will appreciate that. - rwy'n siŵr y sylweddolwch chi (nid 'y gwerthfawrogwch chi'). Gall 'bydd croeso i chi' wneud y tro'n iawn am y Saesneg ffuantus Please do not hesitate to.. Gall 'ewch i'n gwefan' fod yn gyfieithiad digon derbyniol o please visit/login to our website. proactive neu going forward (ymadrodd ffasiynol iawn ym myd cyllid yn lle 'yn y dyfodol'). Weithiau, bydd angen bathu term (e.e. rhagweithiol am proactive - ond gellir dweud 'wrthi' neu rywbeth tebyg weithiau); bryd arall, gall y chwiw fynd heibio heb i fathwyr geiriau Cymraeg boeni dim amdani. Ar un adeg bu ychwanegu situation (we are in a conflict situation) yn ffasiynol, tan i rywun holi When are we going to be in a situation situation?! yn beryglus (i gyfieithwyr) am nad oes iddyn nhw, i bob golwg, ystyr dechnegol neu gyfreithiol, e.e. car park: syndod i lawer yw gweld y cyfieithiad slafaidd 'parc ceir' yn hytrach na 'maes parcio'. Pam mynd yn groes i arfer gwlad? Am fod i car park ddiffiniad cyfreithiol! Lle i geir - a dim un math arall o gerbyd - yw car park. Parking ground (= maes parcio) yw pob math arall o le mawr i amryw o gerbydau barcio ynddo. post office: 'swyddfa bost' neu 'swyddfa'r post'? Defnyddir 'Swyddfa'r Post' i gyfeirio at y gorfforaeth ac 'y swyddfa bost' i sôn am y swyddfa leol. Cyfaddawd yw hwn am fod gwahaniaeth sylfaenol yn y ffordd y bydd pobl y de a phobl y gogledd yn ffurfio clymau o eiriau. Cymerwch, er enghraifft, deitl Bwrdd yr Iaith Gymraeg. I lawer, ac i ogleddwyr yn arbennig, 'y Bwrdd Iaith' ydyw; i bobl y de, 'Bwrdd yr Iaith'. toilet: mae hwn yn perthyn i gategori ychydig yn wahanol, sef term sy'n deillio o ddiffyg cytundeb. Soniais mewn cynhadledd ym Mhlas Tan-y-bwlch un tro mai'r rheswm dros arfer 'toiled' oedd diffyg cytundeb ynghylch pa air a ddylai gynrychioli toilet ar arwyddion ledled Cymru. Wel os do fe! Fe wfftiodd pawb yr awgrym. Cynigiwyd 'tŷ bach', 'lle chwech', 'geudy' a sawl gair arall. Yn anffodus, doedd dim cytundeb - ond ni sylwodd yr wfftwyr nad oedd pawb arall yn cytuno â'u cynigion! Yn gamarweiniol, am nad yw eu hystyr ymddangosiadol yn cyfleu eu hystyr 'dechnegol'. Enghraifft o hyn yw'r ymadrodd individual needs. Nid 'anghenion unigol' a olygir ond 'anghenion (yr) unigolyn/unigolion'. Ystyriaethau o ran arddull Does dim angen i ddarn sy'n cynnwys termau technegol fod yn astrus o ran ei gystrawen. Yn wir, sylw Dr Urien Wiliam ar ôl cyfieithu rhan o'r llyfr 'Technology' i'r Cyd-bwyllgor Addysg oedd iddo synnu pa mor ystwyth y gallai'r cyfieithiad fod er gwaetha'r holl dermau anghyfarwydd y bu'n rhaid cynefino â nhw. Mater o ystyried cynulleidfa'r cyfieithiad - ai arbenigwyr neu'r 'darllenydd cyffredin' fydd yn ei ddarllen, ac o allu trin cystrawen yw hyn. Dyna pam y mae hi mor bwysig i gyfieithydd ddysgu sut mae'r iaith yn gweithio, h.y. dysgu a deall rheolau gramadeg. Ond ar ben hynny, rhaid ymgyfarwyddo â theithi'r iaith a throi'r cyfieithiad yn ddarn o Gymraeg sy'n darllen yn gwbl naturiol. Er bod hyn yn wir am gyfieithu yn gyffredinol, mae'n werth nodi rhai o'r technegau - neu'r triciau - sy'n hwyluso hynny: cyfuno brawddegau (awgrym sy'n dychryn pobl!); hollti brawddeg a chyfuno'i hail hanner â'r frawddeg nesaf ac ati i gael y cyfan i lifo'n rhwydd; osgoi defnyddio termau technegol yn ddiangen; helpu'r darllenydd - os bydd rhaid - drwy roi'r gair neu'r ymadrodd Saesneg mewn cromfachau neu droednodyn, neu hyd yn oed mewn geirfa ar y diwedd; troi enw'n ferf os yw'n sôn am broses barhaus; gwybod pryd y mae cyfieithu a phryd y mae peidio â chyfieithu; newid yr atalnodi - mae camatalnodi'n rhemp yn Saesneg; cynnwys ambell air fel 'wrthi' (nad oes dim yn cyfateb iddo'n union yn y Saesneg) i ychwanegu at naws y darn; ystyried yw rhai geiriau'n ychwanegu pwyslais diangen, e.e. does dim angen y gair 'hynny' mewn brawddeg fel 'mae'r bobl hynny sy'n credu bod.'. Fe wnaiff 'mae'r bobl sy'n credu bod.' y tro'n iawn; mewn ymadroddion fel 'one mile', does dim angen cyfieithu'r 'one'. Gwnaiff 'milltir' y tro'n hen ddigon da. Ond i Sais, mae 'one mile' yn fwy pendant-dechnegol. dylid cofio'r gwahaniaethau cynhenid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r Saesneg yn hoffi brawddegau hir, amlgymalog, lle daw'r pwyslais ar y diwedd. Mae brawddegau Cymraeg yn fyrrach. Ar y dechrau y daw'r pwyslais. Y nod, wrth gwrs, yw gwneud pethau'n rhwydd i'r darllenydd. Hyd yn oed mewn maes technegol, ddylai'r darllenydd ddim bod yn fwy ymwybodol o bresenoldeb y cyfieithydd nag y byddai bod wedi bod yn ymwybodol o bresenoldeb awdur y darn gwreiddiol. Dyma enghraifft dda o'r math o beth rwyf wedi bod yn sôn amdano: Wrth gyflwyno'i gais am aelodaeth gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, fe gynhwysodd ymgeisydd y cyfieithiad hwn. I mi, mae'n enghraifft feistrolgar o drin deunydd sy'n eithaf 'technegol' ei ieithwedd: Welsh flockmasters have long used traditional breed improvement methods to Sylwch yn fanwl ar yr hyn y mae'r cyfieithydd wedi'i wneud. Yn un peth, fe ragflaenodd y ddau 'mae' ar ddechrau'r frawddeg ag ymadroddion amser. Peth diflas braidd yw cyfres o frawddegau i gyd yn dechrau â 'mae'! Cam arall a gymerodd oedd troi 'flockmasters' yn 'ffermwyr defaid' a 'market specifications' yn 'gofynion y farchnad'. Byddwn i wedi troi 'er mwyn ateb' yn 'i ateb' ac 'Erbyn hyn' yn 'Erbyn heddiw', efallai, ond mater o chwaeth yw hynny. Y peth pwysig, wrth gwrs, yw ei fod wedi creu darn o Gymraeg dechau sy'n darllen yn rhwydd iawn. Welsoch chi angen technegolrwydd 'ffals' y Saesneg? Naddo? Wnes inne dim chwaith! Dyma ran o'i ail baragraff: The Welsh Sheep Strategy seeks to exploit Amcan Strategaeth Defaid Cymru yw both the breeding arts that achieved so manteisio ar brofiad y gorffennol, ynghyd much in the past, and the new tools science â'r ddarpariaeth wyddonol newydd. has provided. Er bod modd dadlau ei fod wedi crwydro'n rhy bell oddi wrth y gwreiddiol yn y fan hon, byddwn i'n gofyn a oes unrhyw beth o bwys ar goll? Sylwch ei fod wedi troi'r ferf seeks yn enw + 'yw' gan roi'r pwyslais ar ddechrau'r frawddeg, wedi hepgor 'breeding arts' yn gyfan gwbl ac wedi crynhoi 'the new tools' yn 'ddarpariaeth. Chollwyd dim byd o bwys, dim ond tipyn o'r crandrwydd ffug-wyddonol sy'n britho cymaint o ysgrifennu yn Saesneg. Doedd ar yr ymgeisydd ddim ofn defnyddio termau technegol pan oedd eu gwir angen. As the Strategy utilises techniques ranging Mae'r Strategaeth yn defnyddio technegau sy'n amrywio o gofnodion diadell syml i ovulation and embryo transfer, individuals can decide what level of involvement suits Dyma'r cyfieithydd wedi hollti brawddeg hir yn ddwy. Byddwn i wedi dweud 'Gan fod y Strategaeth yn.' ac wedi cadw'r cyfan mewn brawddeg hir, ond mater o chwaeth yw hynny unwaith yn rhagor. Fe ddefnyddiwyd termau technegol iawn gan ofalu bod y cyfan yn rhan o frawddegau sy'n llifo. A sylwch ar ffordd fendigedig y cyfieithydd o symleiddio'r ymadrodd what level of involvement suits their own aspirations! Gellid dadlau, wrth gwrs, nad gwaith cyfieithydd yw symleiddio ac aralleirio fel hyn, a byddai dyn yn cynghori pob cyfieithydd i arfer y technegau hyn yn ofalus iawn. Yr hyn na ellir ei wadu yw bod y cyfieithydd wedi cynhyrchu trosiad teg a darllenadwy o'r darn gwreiddiol. I gloi, ac o ran diddordeb yn fwy na dim, dyma'r ohebiaeth a fu ar welsh-termau-cymraeg dro'n ôl rhwng Richard Crowe, pennaeth cyfieithwyr cyfraith y Cynulliad, a Dr Prys Morgan Jones o Brifysgol Bangor: Wrth gyfieithu deddfwriaeth o wahanol fathau, rydyn ni'n gorfod delio â nifer o dermau gwyddonol. Un peth sy'n peri problem yw enwau deunyddiau fel: "Selenite Cystine Trimethylamine N-Oxide Dulcitol", "Lysine Decarboxylase Glucose". Mae cymreigio'r sillafiad yn weddol rwydd o ddilyn y cyfarwyddiadau sydd yn Termau Bioleg, Cemeg a Gwyddor Gwlad, ond mae'n anodd gwybod sut y dylid cyflunio'r enw yn Gymraeg - ai dilyn trefn yr elfennau Saesneg ee. " Selenit Cystin Trimethylamin N-Ocsid Dwlsitol" neu gymryd mai ansoddeiriol yw'r elfennau sy'n rhagflaenu "Dwlsitol" ac mai "Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin N-Ocsid" yw'r Gymraeg. Rwy'n ymwybodol nad yw'n bosibl llunio rheol sy'n ateb pob achos, ond oes canllawiau cyffredinol? Gan fod yr elfennau sy'n rhagflaenu dwlsitol yn enwau ar sylweddau eraill mae'n anodd cymhwyso cyfarwyddiadau Peter Wynn Thomas ynghylch trefn ansoddeiriau (neu eiriau sy'n gweithredu fel ansoddeiriau) (Gramadeg y Gymraeg t. 318). All rhywun gynnig arweiniad? Prys: Mae rheolau pendant gan IUPAC (International Union of Pure and Applied Chemistry) ynghylch enwau cemegau, ac mae trefn y rhannau o'r enwau yn arwyddocaol. Mae'r rheolau yn caniatáu cynhyrchu'r enw o'r fformiwla (neu'r strwythur), neu'r fformiwla a'r strwythur o'r enw. Yn sicr, nid fel enwau ac ansoddeiriau y dylid edrych ar y rhannau. Ceisiais egluro, flynyddoedd yn ôl, nad 'Jonesal Prys Morgan' yw fy enw yn Saeneg; yr oedd enghreifftiau megis copper sulphate yn cael eu cyfieithu yn sylffad copr, pan yw'r rheolau yn dweud mai'r elfen fwyaf electopositif (sef copr) ddylai ddod gyntaf. Mae yna broblem gan nad yw pob cyfundrefn enwi cemegau yn dilyn rheolau IUPAC yn union, a defnyddir enwau cyffredin neu led-gyffredin (trivial neu semi-trivial). Mae hyn yn digwydd weithiau oherwydd bod yr enwau systematig ychydig yn drwsgl, e.e. haws defnyddio 'vitamin A' na '9-(2,6,6-trimethyl-1-cyclohexenyl)-3,7 dimethyl-2,4,6,8-nonatetraen-1-ol'! Wrth Gymreigio'r ffurfiau gellir (fel mae Richard yn dweud) defnyddio ffurfiau megis deu- am di- neu cylcho- am cyclo-. Mae angen gofal gyda llafariaid - mae iddynt gryn arwyddocâd a dylid gochel rhag ceisio cyfleu'r sain Saesneg, felly mae ethane > ethan, ethene > ethen, ac ethyne > ethyn. Richard: Diolch am y cyfeiriad at reolau IUPAC. O edrych ar fersiwn Ffrangeg o'r rheolau rwy'n gweld bod yr enwau Ffrangeg (www.chemexper.com/misc/iupac/3/index.html) yn rhoi 'acide' e.e. ar ddechrau'r enw e.e. "acide 4,7,10,13-tetraoxapentadeconoique" yn gyson â chystrawen y Ffrangeg. A fyddai "asid 4,7,10,13 tetraocsapentadeconoig" yn iawn yn Gymraeg o gymryd nad yw "asid" yn derm systemig? Os felly, oes modd dweud yr un peth am "Xylose Lysine Deoxycholate Agar", sef rhoi "agar" ar ddechrau'r enw Cymraeg i greu "Agar Xylos Lysin Deocsicolad"? A beth am 'glucose' yn 'Lysine Decarboxylase Glucose' - ai term cyffredin neu led- gyffredin yw 'glwcos' ac os felly ai 'Glwcos Lysin Decarbocsilas'yw'r Gymraeg ynteu 'Lysin Decarbocsilas Glwcos? O ran 'copper sulphate' rwy'n gweld bod y Ffrangeg yn sôn am 'sulphate de cuivre' ac mae cyfuniadau eraill megis 'oxyde de styrene' a 'dibromure de cholesterol' yn dilyn yr un patrwm. Sut mae'r Ffrancwyr yn cael getawe?! Pan gyflwynais yr uchod i weithdy yng Nghynhadledd haf y Gymdeithas yn Harlech, doedd pawb ddim yn cytuno â sylwadau Prys.! Berwyn Prys Jones

Source: http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/content/uploads/documents/cyfieithu_technegol.pdf

alcoholismresearch.org

FOR IMMEDIATE RELEASE PIONEER IN ADDICTION TREATMENT SUPPORTS PROPOSED RESEARCH Dr. Sheila Blume Advocates Testing Baclofen for Alcohol Dependence Bridport, VT – February 26, 2013 – The Foundation for Alcoholism Research (FAR) announces that Sheila Blume, MD endorses the FAR campaign to fund a study on the effects of the medication Baclofen on alcohol dependence. The N

China economic headlines

China Economic Headlines General news on Chinese economy China tackles underlying problems in economy China has realized some fundamental economic problems contributing to the ongoing overheating in certain economic sectors and has begun to take actions against them. These issues, identified at an executive meeting of the State Council in mid-July and by renowned economists, are

Copyright © 2018 Predicting Disease Pdf